Alternative content

Get Adobe Flash player

Cyrnol Pritchard

Colonel Prichard

Nid yw'n sicr yn union pryd cafodd Edward Prichard ei eni, ond rydym yn credu mai’n rhaid mae’n weddol gynnar yn y 17eg ganrif, o bosibl tua 1610. Nid ydym ychwaith yn gwybod lle cafodd ei eni oherwydd credir bod gan y teulu Prichard mwy nag un tŷ, er ei bod yn fwyaf tebygol mai ei fan geni oedd Llancaiach Fawr. 

Yn anffodus, ychydig a wyddys am ei fywyd cynnar. Fe ddaeth i’r amlwg yn ystod cyfnod y Rhyfel Cartref. Erbyn hyn byddai eisoes wedi priodi Mary Mansel (o bosibl yn y 1630au), a'i blant mae'n debyg wedi cael eu geni - er i’w ddau fab "farw’n ifanc". Mae llawer o hyn yn dybiaeth, oherwydd hyd yn hyn dim ond ychydig o gofnodion am y cyfnod hwn o'i fywyd sydd wedi dod i'n golwg.

Yr hyn sy'n sicr yw ei fod wedi dal swydd Siryf Morgannwg ym 1638 a chafodd ei benodi'n Ynad Heddwch ym 1640, swydd a ddaliodd trwy gyfnod cyfan y Rhyfel Cartref hyd ei farwolaeth ym 1655.

Roedd Edward Prichard yn cefnogi achos y Brenhinwyr tan ail hanner 1645, pan, fel y rhan fwyaf o uchelwyr Cymreig, newidiodd ei deyrngarwch i ochr y Seneddwyr. Yn hwyr yn y flwyddyn y cafodd ei benodi'n Llywodraethwr Castell Caerdydd. Ym mis Chwefror 1646 amddiffynnodd y Castell yn gadarn ar gyfer y Seneddwyr yn erbyn gwarchae dan arweiniad Edward Carne. Cafodd ei ganmol hefyd "am ei gysondeb yn y ffrwgwd hynny" ar ôl brwydr Sain Ffagan (1648), gan y Cyrnol Horton, yr enillydd Seneddol.. 

Mae'n hysbys bod Edward Prichard hefyd wedi cael ei benodi fel un o'r Comisiynwyr Sir am weinyddu’r Ddeddf Taenu (yr Efengyl yng Nghymru), a'i fod felly'n gallu archwilio clerigwyr ar gyfer "tramgwyddaeth, llid a dibreswyledd". Gwyddys iddo fod yn Fedyddiwr, ac yn aelod o grŵp oedd yn cwrdd yng Ngraig-yr-Allt, Eglwysilan. Rydym hefyd yn tybio bod ganddo cyd-deimladau Piwritanaidd.     

Yn anffodus ar ddiwedd 1649 bu farw ei wraig. Yn yr Hydref cyn ei marwolaeth ysgrifennodd hi lythyr at ei brawd, yn gofyn y dylai ef wneud trefniadau i fagu’r ddwy ferch, gan nad oedd boneddigesau yn lleol a allai fod yn bresennol i'w haddysgu. Rhaid bod colled ei wraig a’r gwahanu tebygol oddi wrth ei ferched yn ergyd chwerw, oherwydd na priododd byth eto. Goroesodd ei wraig gan ond chwe blynedd.