Alternative content

Get Adobe Flash player

Y Rhyfel Cartref

Parhaodd anfodlonrwydd i dyfu ledled y wlad tan 22 Awst 1642 pan wnaeth Charles alwad ffurfiol i'r gad yn erbyn y Senedd, a chododd ei faner yn Nottingham.

Chwythodd gwynt cryf y faner i lawr a gwelodd llawer hyn fel beth drwg ar gyfer y dyfodol. Cafodd brwydr gyntaf y Rhyfel Cartref ei ymladd yn Edgehill, ond profodd i fod heb ganlyniad amlwg. Gan fod Llundain dan reolaeth y Senedd, sefydlodd Charles ei Lys yn Rhydychen.

Nid oedd y Brenin yn dactegydd milwrol da. Cafodd lawer o frwydrau ac ysgarmesoedd eu hymladd, ond ar y cyfan roeddynt heb ganlyniad cadarn tan fis Gorffennaf 1644, pan ddigwyddodd brwydr Gwaun Marston, a phrofi'n bendant o ochr y Senedd gyda gorchfygiad byddin y Brenin. Er bod ei luoedd wedi eu gwanhau yn fawr a’r cronfeydd arian yn fach, dewisodd y Brenin i ymladd o hyd er bod yr ochr seneddol wedi cynnig cymodi.

Ym Mehefin 1645, yn Naseby, cafodd gobeithion Charles eu dinistrio am y tro olaf, gyda’i fyddin yn cael ei churo a’i rhannu’n gyfan gwbl. Daethpwyd o hyd i ddogfennau sy’n dangos ei fod yn barod i ofyn am help gan y Ffrancwyr a’r Gwyddelod, gan wneud consesiynau i'r Pabyddion yr oedd wedi gwrthod gwneud gyda’r Presbyteriaid, a thrwy hynny yn dangos na allai ymddiried ynddo. Hyd yn oed wedyn, nid oedd ei natur ystyfnig yn caniatáu iddo ildio.

Militia Men with firearms

Teithiodd i Gymru a'r Gorllewin, yn y gobaith o gasglu cymorth eto. Dyma’r adeg y daeth i Lancaiach Fawr a chael trafodaethau gydag Edward Prichard, ond roedd y rhain yn amlwg yn aflwyddiannus oherwydd yn fuan wedi hynny, fe wnaeth Prichard, fel llawer o aelodau eraill y bonedd Cymreig, datgan eu cefnogaeth i'r Senedd.

Yn y pen draw, aeth Charles i’r Alban gyda’r gobaith y gallai ddod i ryw gytundeb a fyddai'n gwarchod y Frenhiniaeth, ond profodd ei ddichell i fod yn rhy fawr. Cafodd ei drosglwyddo i'r Seneddwyr a’i wneud yn garcharor. Er iddo gael ei drin â pharch, roedd wedi colli llawer o'i rym fel Brenin. Yn ei ymdrechion i adennill pŵer roedd yn profi o hyd i fod yn hollol annibynadwy ym marn llawer.

Cafodd ei garcharu yn Hampton Court, ond dihangodd i Ynys Wyth, dim ond i gael ei gymryd yn garcharor unwaith eto, y tro hwn wedi’i warchod yn well.

Ceisiodd yr wrthblaid dod i delerau ag ef trwy gydol y cyfnod hwn, ond roedd bellach yn anghytgord rhwng y Senedd a'r fyddin, a cheisiodd Charles chwarae un ochr yn erbyn y llall, unwaith eto yn profi ei natur annibynadwy.

Parhaodd ysgarmesoedd a gwrthryfeloedd a oedd yn cefnogi'r Brenin, ond cawsant eu delio â hwy’n gyflym. Profodd yr "Ail Ryfel Cartref" hwn i fod ei gwymp. Daeth Oliver Cromwell a'i fab-yng-nghyfraith Henry Ireton yn allweddol yn y galw am Charles i gael eu dwyn i dreial.

Daeth Charles i Lundain dan gyhuddiad o Frad. Er iddo wneud amddiffyniad dewr a huawdl am ei weithredoedd, cafwyd serch hynny’n euog. Nododd ei Warant Marwolaeth, a lofnodwyd gan bum deg naw o ddynion, fod y Brenin "yn cael ei roi i farwolaeth gan dorri ei ben oddi wrth ei gorff." Cafodd ei ddienyddio ar y crocbren a adeiladwyd at y diben y tu allan i Balas Whitehall, ar 30 Ionawr, 1649.