Ffioedd cofrestru:
Heb Ymaelodi: |
£20 |
Aelodaeth Athletau Cymru/Clwb: |
£18 |
Consesiynau - dros 60 a chofrestriadau cadair olwyn: |
£18 |
2k Ieuenctid |
£6.50 |
I gofrestru ar gyfer ras 2020, cliciwch ar y ddolen ganlynol Cofrestrwch ar gyfer 10cilomedr 2019 ar 2cilomedr 2019
Ar gyfer ymholiadau penodol am fanylion 10cilomedr Caerffili Bryn Meadows, cysylltwch â’r Llinell Wybodaeth ar 029 2088 0011 (ar agor 7 diwrnod yr wythnos rhwng 10am a 5pm) neu anfonwch e-bost at 10k@caerphilly.gov.uk
GWYBODAETH I GYFRANOGWYR
Er mwyn eich helpu gyda chynllunio eich ymweliad, ewch i weld Gwybodaeth i’r Sawl sy’n Cymryd Rhan am lawer o wybodaeth ar deithio i’r digwyddiad, cyfleusterau ar y safle a gwybodaeth gyffredinol am y digwyddiad.
Gwybodaeth i Gyfranogwyr (PDF)
2K
Bydd y 2k yn digwydd yn erbyn cefndir Castell Caerffili. Bydd y sawl sy’n cymryd rhan yn cael eu hamseru drwy ddefnyddio sglodion ac yn derbyn medal a phecyn gwobrau ar ôl gorffen y ras. Bydd gofyn i’r sawl sy’n cymryd rhan fod yn 8+ mlwydd oed ar ddiwrnod y digwyddiad er mwyn cymryd rhan.
LLEOEDD ELUSEN
Nid yw codi arian wedi'i gyfyngu i unrhyw un elusen. Rhaid i unigolion a thimau sydd yn dymuno codi arian ar gyfer elusen ddynodedig wneud hynny mewn cydweithrediad â’u helusen o ddewis.
YMAELODI
Bydd ceisiadau gan Glybiau’r DU sydd wedi ymaelodi gyda Bwrdd Llywodraethu Chwaraeon yn cael eu hystyried ar gais. Anfonwch e-bost at 10k@caerphilly.gov.uk gan gynnwys eich enw, cyfeiriad a rhif y clwb i gael eich ystyried i gofrestru.