|
AchlysuronMae Llancaiach Fawr yn lleoliad gwych am unrhyw fath o ddathliad. Wedi'i osod yng nghefn gwlad yn edrych dros Gwm Rhymni ni allai lleoliad fod yn well. Mae'r Bwyty Ystafell Wydr yn lleoliad delfrydol am grwpiau o hyd at 70 person ac am niferoedd mwy mae lle i 120 person yn y Neuadd Mansell a lle am lawr ddawnsio. Trefnwch barti er mwyn dathlu:
Dewiswch o ystod eang o opsiynau arlwyo:
Mae gennym ni drwydded lawn ac mae bar un Neuadd Mansell gydag amrywiaeth o gwrw, lager a seidr o'r gasgen Mae ystod o opsiynau bwydlen ar gael a bydd y Rheolwraig Achlysuron, Victoria Scullin, yn eich arwain drwy'r holl drefniadau. Cynlluniwch yr achlysur perffaith drwy gysylltu â'n Rheolwraig Achlysuron: 01443 412248 neu e-bostiwch llancaiachfawr@caerphilly.gov.uk Sylwadau cwsmer:Pen-blwydd 60 oed fy chwaer Parti o 12 person. Cawsom ni amser bendigedig. Roedd y bwyd yn wych a'r staff yn gyfeillgar iawn. Mrs Val Aull Unwaith eto cawsom ginio hyfryd. Diolch i bawb am yr hyn a wnaethant fel y gall ein haelodau ymlacio a threulio ychydig o oriau hyfryd gyda'i gilydd. J Lewis Diolch yn fawr iawn am fod mor dda wrth edrych ar ein hôl ni ddoe mewn parti ymddeol - fe gawsom ni amser hyfryd. Mrs Allford. Fe wnaeth Mrs Berry a'i staff edrych ar ein hôl yn dda iawn - roedd y bwrdd wedi ei osod yn hyfryd yn yr ystafell achlysur a wnaethom deimlo'n arbennig iawn. M Williams grŵp U3A . I Victoria a'r holl staff a oedd yn rhan o'r Noswaith Llofruddiaeth Ddirgel 13.9.14- Diolch. Roedd y noson yn anhygoel. Roedd yr ystafell yn brydferth, ac roedd y staff i gyd yn wych ac yn gyfeillgar iawn. Roedd y bwyd yn wych, ac fe wnaeth bawb fwynhau. Roedd pob un o'm gwesteion wedi mwynau'r noson ac roeddent wedi canmol y gwasanaeth a'r ystafell. Elizabeth.
|
Dolenni Cyflym
|