Mae'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus hefyd yn cyhoeddi ei Asesiad Llesiant ar-lein am y tro cyntaf. Mae hyn yn cynnwys nifer o'r setiau data a oedd yn rhan o'r Asesiad Llesiant gwreiddiol, ond lle bo'n briodol mae'r data a gynhwyswyd wedi'u diweddaru i gynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf. Darperir naratifau sy'n disgrifio tueddiadau data hefyd lle bo hynny'n briodol. Gellir cyrchu'r wybodaeth yma:
Mae fersiwn Cymraeg o'r adnodd yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd a bydd ar gael maes o law.
Er mwyn llunio’r Cynllun, mae’n rhaid i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus gynnal asesiad o lesiant mewn ardaloedd cymunedol ac yn y sir gyfan. Mae’n rhaid i’r asesiad hwn gynnwys data perthnasol a thynnu ar arbenigedd pobl leol a mudiadau lleol. Disgwylir i’r asesiad ystyried cryfderau ac asedau pobl a chymunedau y gellir adeiladu arnynt i helpu i wella llesiant y cymunedau hynny.
Yna caiff yr asesiad ei ddefnyddio i ddatblygu amcanion a blaenoriaethau lleol ar gyfer y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i’w dwyn ynghyd fel rhan o’r Cynllun Llesiant Lleol.
Mae’n rhaid i bob Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus gyhoeddi adroddiad cynnydd o fewn 14 o gyhoeddi ei adroddiad llesiant lleol cyntaf ac, ar ôl hynny, o fewn 1 flwyddyn o gyhoeddi pob adroddiad blaenorol. Nid oes unrhyw ofyniad wrth lunio cynllun newydd yn dilyn etholiad llywodraeth leol cyffredin i adroddiad blynyddol gael ei lunio.
Mae’n rhaid i’r adroddiad hwn osod y camau a gymerwyd i gyflawni’r amcanion a osodwyd yn y cynllun llesiant lleol ac mae’n rhaid iddynt gael eu mesur gan gyfeirio at y dangosyddion cenedlaethol a’r dangosyddion a’r safonau perfformiad ar gyfer Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus lle eu bod wedi’u gosod.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol;
Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent
Y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol