Mae'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus hefyd yn cyhoeddi ei Asesiad Llesiant ar-lein am y tro cyntaf. Mae hyn yn cynnwys nifer o'r setiau data a oedd yn rhan o'r Asesiad Llesiant gwreiddiol, ond lle bo'n briodol mae'r data a gynhwyswyd wedi'u diweddaru i gynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf. Darperir naratifau sy'n disgrifio tueddiadau data hefyd lle bo hynny'n briodol. Gellir cyrchu'r wybodaeth yma:
Mae fersiwn Cymraeg o'r adnodd yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd a bydd ar gael maes o law.
Rydym wedi cynhyrchu'r fideo hwn i ddangos beth yw ystyr Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) i drigolion Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerffili wedi cynnal yr asesiad hwn o les lleol ei ardal, yn unol â gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a'i gyfarwyddyd statudol cysylltiedig. Dewiswch ddolen isod i gael rhagor o wybodaeth.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol;
Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent
Y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol