Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus

Mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerffili yn dod â chyrff cyhoeddus ynghyd i gydweithio i wella eich llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol. Maent yn gyfrifol am oruchwylio’r gwaith o lunio’r Cynllun Llesiant Lleol newydd sef gweledigaeth hir dymor ar gyfer y fwrdeistref sirol.

Mae gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerffili bedwar aelod-fudiadau sy’n gyfrifol am gyflawni ei ddyletswyddau llesiant o dan y Ddeddf.

  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru

ac mae’n rhaid iddynt wahodd cyrff cyhoeddus eraill i ddod yn rhan o’r bwrdd er mwyn eu cefnogi. Gall y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus hefyd wahodd cyrff eraill sy’n rhannu eu nodau ac sy’n gallu eu helpu i gyflenwi’r Cynllun Llesiant Lleol i ddod yn rhan o’r Bwrdd.

  • Cwmni Adsefydlu Cymunedol
  • Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent gan gynrychioli’r sector gwirfoddol
  • Heddlu Gwent
  • Y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol
  • Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Gweinidogion Cymru
Website by Andy Grant