O dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerffili (y Bwrdd) yn dod â chyrff cyhoeddus at ei gilydd i weithio i wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol bwrdeistref sirol Caerffili. Mae'r Bwrdd yn dymuno sicrhau bod gan bobl leol ddealltwriaeth glir o rôl y Bwrdd a bod pobl yn gallu cymryd rhan os dymunant.
Yn ddiweddar cynhaliodd Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus arolwg, a bydd yn cyhoeddi'r canlyniadau yma yn fuan. Bydd Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus yn cynnal yr arolwg eto yn y dyfodol i weld a yw dealltwriaeth preswylwyr wedi newid o ran Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus a'i waith.
Gallwch hefyd ofyn cwestiynau i Fwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus am ei waith cyn pob cyfarfod chwarterol. Os hoffech ofyn cwestiwn am waith partneriaeth Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus, defnyddiwch y ddolen hon.
caerphillywewant@caerphilly.gov.uk
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol;
Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent
Y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol