Mae gan y Gaerffili a Garem 2018-2023 bedwar amcan lefel uchel
Mae'r BGC wedi gosod meysydd i'w gweithredu ei hun a galluogwyr sylfaenol a fydd yn ei helpu i gyflawni ei amcanion llesiant. Mae gan bob un o'r rhain gynllun gweithredu cysylltiedig. Mae cynnydd yn cael ei fonitro gan y BGC yn ei gyfarfod chwarterol ar gylchdro bob chwe mis ar gyfer pob maes. Ar gyfer adroddiadau cynnydd ewch dudalen Adroddiadau Cynnydd.
Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerffili yn falch o gyhoeddi ei ail adroddiad blynyddol, sy'n amlygu'r cynnydd a wnaed tuag at y Cynllun Llesiant 'Y Gaerffili a Garem 2018-2023'. Mae'r adroddiad eleni yn ymdrin â chyfnod hirach o 16 mis, gan fod yr holl bartneriaid wedi bod yn rhan o'r ymateb i bandemig Covid-19. Mae amserlen hirach wedi caniatáu i'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus arddangos ymateb anhygoel y sectorau cyhoeddus a chymunedol trwy gydol yr argyfwng iechyd cyhoeddus hwn.
Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerffili wedi cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol cyntaf yn rhoi diweddariad ar gynnydd yn dilyn cyhoeddi’r Cynllun Llesiant, 'Y Gaerffili a Garem 2018-2023', ym mis Mehefin 2018. Gallwch weld yr Adroddiad Blynyddol yma.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol;
Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent
Y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol